Delyth Jewell, AS

Cadeirydd

Y Pwyllgor Diwylliant a’r Gymraeg

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

10 Gorffennaf 2023

 

Annwyl Gadeirydd

 

Lleoli Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Amenedigol Gogledd Cymru

 

Ysgrifennaf atoch ar ran Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith sy’n ymgyrchu yn unol â'r dull di-drais dros hawliau trigolion Cymru i gael derbyn gwasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg. Fel grŵp, rydym yn bryderus iawn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leoli gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol amenedigol gogledd Cymru y tu allan i Gymru, gan amddifadu merched a’u teuluoedd o’u hawl i dderbyn gofal trwy’r Gymraeg. Galwn ar Y Pwyllgor Diwylliant a’r Gymraeg i gynnal ymchwiliad i’r mater am y rhesymau a amlinellir isod.

 

Ceir tystiolaeth gynyddol bod cleifion yn teimlo’n fwy cyfforddus, hyderus a medrus i drafod eu hiechyd yn eu mamiaith (Misell, 2000; Madoc-Jones, 2004; Prys, 2010; Iaith, 2012; CYG, 2014; Hughes, 2018; Martin et al, 2019); a byddai’n hollol annerbyniol pe na bai'r mamau hyn yn cael defnyddio eu Cymraeg, a hwythau eisoes mewn sefyllfa mor fregus. Heblaw hynny, os am gyrraedd rhywun mewn gwewyr meddwl, mae’n rhaid ar gyfathrebu effeithiol sy’n briodol i’w anghenion iaith (Pavlenko, 2012; Santiago-Rivera ac Altarriba, 2002). Gall hyn fod yn allweddol ar gyfer cynnal asesiadau cywir a dibynadwy, a chyflwyno triniaethau ystyrlon ac effeithiol (Karliner et al, 2010; de Moissac a Bowen, 2019; Seale et al, 2022). Am hynny, does dim amheuaeth y byddai cael y cyfle i siarad eu hiaith eu hun yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i brofiadau a chanlyniadau’r cleifion dan sylw.

 

Rydym yn ymwybodol o wasanaethau ehangach a ddarperir dros y ffin lle mae arbenigedd wedi’i gwreiddio ers blynyddoedd. Ond credwn fod y sefyllfa dan sylw yn bur wahanol gan fod yr arbenigedd iechyd meddwl eisoes gennym yng ngogledd Cymru – a hynny’n aml trwy’r Gymraeg. Rhaid nodi mai merched ar eu mwyaf bregus sydd dan sylw fan hyn. Gallwn ond dychmygu eu sefyllfa hunllefus a fyddai’n gwaethygu’n arw o fod mewn awyrgylch lle mae popeth yn teimlo’n anghyfarwydd, yn enwedig yr iaith o’u cwmpas. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n rhaid i’r driniaeth fod yn ieithyddol briodol neu mae yna beryg na fydd yn effeithiol - na hyd yn oed yn addas ar gyfer yr unigolyn. 

 

Rydym wedi ein siomi’n arw gydag ymateb y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i’r drafodaeth (gweler cofnod Y Senedd 15/2/23 ac ymateb ysgrifenedig y gweinidog i Gymdeithas yr Iaith 1/6/23). Wrth ddiystyried pwysigrwydd y Gymraeg yn y gwaith cynllunio, mae Llywodraeth Cymru yn cefnu ar egwyddorion craidd ei strategaeth Mwy na Geiriau ac yn tanseilio hawliau dynol merched bregus. Galwn ar Y Pwyllgor Diwylliant a’r Gymraeg i gynnal ymchwiliad i’r mater hwn ar frys gan ystyried y dystiolaeth yn llawn ac ail-agor y drafodaeth. Rydym yn ffyddiog y byddai hyn yn arwain at gynllunio o’r newydd er mwyn gwarchod hawliau iaith mamau a theuluoedd ar eu mwyaf bregus.

 

Yn gywir

 

Gwerfyl Roberts

Cadeirydd

Grŵp Iechyd a Lles

Cymdeithas yr Iaith